Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2017
Amser:
08.30 -
08.42
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Ymddiheurodd y Llywydd am ei habsenoldeb a bu’r Dirprwy Lywydd yn cadeirio’r cyfarfod.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai'r holl bleidleisiau mewn perthynas â'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Cadarnhaodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
· Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Dydd Mercher
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 10 Ionawr 2018 -
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 6 Rhagfyr:
NDM5518 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dwy ddadl ar Gynigion Deddfwriaethol yr Aelodau yn y Flwyddyn Newydd, a dewiswyd y cynigion canlynol:
17 Ionawr 2018
NNDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.
7 Chwefror 2018
NNDM6537 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 12 Rhagfyr yn dechrau am 8am.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r papur ar Gwestiynau Llafar y Cynulliad, a ohiriwyd yr wythnos diwethaf, ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf.